Ymddiriedolwr

Uncategorized @cy
Chwarae eich rhan

Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn siapio dyfodol un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru. Mae ymddiriedolwyr Theatr y Sherman yn rhoi trosolwg strategol, stiwardiaeth, rheolaeth gorfforaethol, ac yn cefnogi ein tîm gweithredol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein Bwrdd yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth ein cymunedau bywiog ac felly byddem yn croesawu ceisiadau gan ddarpar ymddiriedolwyr o gefndiroedd amrywiol a all ddod ag ystod eang o sgiliau a phrofiadau i’r rôl. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol er nad yw’n hanfodol ac nid oes angen profiad blaenorol o fod ar fwrdd.

Fel ymddiriedolwr, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth siapio dyfodol y Sherman drwy ddarparu goruchwyliaeth strategol, stiwardiaeth a llywodraethu, a chefnogaeth i’n tîm gweithredol. Bydd eich mewnbwn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ffynnu a chyflawni ein nodau, cyflawni ein huchelgais ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau fel sefydliad elusennol.

Rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwyr sydd â phrofiad mewn:

  • Cyllid/Cyfrifeg: gwybodaeth/profiad mewn cyllid Nid er elw ac elusennol
  • Codi arian/ariannu: gwybodaeth/profiad wrth ddatblygu a gweithredu strategaethau codi arian llwyddiannus
  • Rheoli Adeiladau/Cyfleusterau: gwybodaeth/profiad o gynnal a chadw adeiladau, cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfleusterau arlwyo
  • Creu Theatr: gwybodaeth/profiad o amgylchedd Theatr Gynhyrchu

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, anfonwch CV a llythyr cais i recruitment@shermantheatre.co.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cyn gwneud cais, cysylltwch â’r adran recriwtio fel y gallwn drefnu cyfarfod/trafodaeth gyda Chadeirydd ein Bwrdd neu’r Prif Weithredwr.

Gwahoddir darpar Ymddiriedolwyr i drafodaeth anffurfiol gyda Chadeirydd ein Bwrdd, ac yn dilyn hynny gwahoddir ymgeiswyr a ddewisir gan y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Llywodraethu i ymweliad a thaith o amgylch y theatr.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 08 Tachwedd 2024

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu Noson i’r Wasg ar gyfer A Christmas Carol ar 26 Tachwedd 2024.