Yma i Chi

Uncategorized @cy

Yn fwy nag erioed, Theatr y Sherman yw eich theatr chi dros y gaeaf hwn. Rydyn ni eisiau i gymunedau, cynulleidfaoedd a gweithwyr llawrydd creadigol y ddinas deimlo’n gartrefol yn ein cyntedd cynnes a chyfeillgar. Mae ein drysau bob amser ar agor. Rydyn ni yma i chi.

Lle i bawb
Mae ein cyntedd cynnes a chysurus ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9yb – 6yh (yn hwyrach pan fydd perfformiad). Mae croeso i chi dreulio cymaint o amser ag y dymunwch yma. Rydym yn cynnig:

  • Te a choffi AM DDIM bob dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11yb a 3yp (casglwch daleb wrth y bar a’i roi i aelod o staff y Caffi Bar ar mwyn derbyn eich diod am ddim)
  • Digon i’ch difyrru gan gynnwys dramâu y Sherman i’w darllen, taflenni lliwio, creonau, posau, chwileiriau, llyfrau plant, teganau a gemau bwrdd
  • Mae WIFI am ddim a llu o bwyntiau gwefru
  • Sesiwn Sgwrsio bob dydd Mawrth rhwng 11yb ac 1yp. Os ydych chi awydd cwmni, dewch draw i’r Sherman i gael sgwrs gyda’n tîm Sherman 5.

Adloniant arbennig i bawb
Rydym am sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl:

Ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol
Mae Theatr y Sherman yn cynnig amgylchedd cynnes ac ymlaciol lle gall gweithwyr llawrydd creadigol weithio’n gyfforddus. Rydym yn cynnig:

  • WIFI AM DDIM a phwyntiau gwefru
  • Tŷ Agored – cynllun ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol sy’n cynnig gostyngiadau yn ein Caffi Bar.

Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 i gael gwybod mwy.