“The lyricism of the text reaffirms James’s status as one of Wales’s most exciting playwrights . . . undeniably reassuring about community, progress and the future.” **** The Guardian
‘’Campwaith! Roedd Llwyth yn wych- Tylwyth wedi goddiweddyd y gwychder hwnnw!’’ Hefin Jones, Golwg
“A provocative and compelling play that made me laugh, made me cry and made me think. Shifting between English and Cymraeg without missing a linguistic beat, it was also the most inclusive Welsh-language work I had ever experienced.” WalesOnline
Yn dilyn y perfformiad cyntaf yn Theatr y Sherman ym mis Mawrth 2020, cafodd y daith genedlaethol ei chanslo yn sgil yr argyfwng COVID. Nawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman yn falch iawn o fod yn cydweithio unwaith eto i ddod â’r cynhyrchiad eithriadol hwn yn ôl i gynulleidfaoedd ledled Cymru.
Mae Tylwyth yn ddoniol, tyner a direidus ac yn aduno cymeriadau hoffus y cynhyrchiad gwobrwyol Llwyth, ddegawd ar ôl y ffenomen theatrig Gymraeg honno. Mae’n dilyn grŵp o ffrindiau hoyw sy’n byw yng Nghaerdydd, a chan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae’n sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.
“Audiences who remember the original will not be disappointed – the gang’s all here! – and yet. . . Tylwyth feels like a new journey with startling narrative arcs.” Nation.Cymru
Mae’r llwyfaniad hwn o Tylwyth yn 2022 yn gweld bron pob un o’i chast yn 2020 yn dychwelyd, gan gynnwys Simon Watts (a chwaraeodd ran Gethin yn Pobol y Cwm ac a ymddangosodd yn fwyaf diweddar yn y ddrama deledu Yr Amgueddfa); Danny Grehan (fu’n rhan o nifer o gynyrchiadau’r diweddar Michael Bogdanov a’i Wales Theatre Company), a Michael Humphreys (sydd wedi ymddangos mewn cynyrchiadau gan gwmnïau theatr fel Tangled Feet, Motherlode, Black Rat a National Theatre Wales). Roedd Simon, Danny a Michael hefyd yn rhan o’r cynhyrchiad gwreiddiol o Llwyth yn ôl yn 2010. Yn ymuno â nhw unwaith eto fe fydd Arwel Davies (sy’n chwarae Eifion yn Pobol y Cwm ar hyn o bryd).
‘’Beautifully drawn characters are brought to life by an outstanding cast.’’ Buzz Magazine
Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, a gyfarwyddodd y cynhyrchiad yn 2020 yn ogystal â chynhyrchiad gwreiddiol Llwyth, fydd yn cyfarwyddo’r ail-lwyfaniad hwn.
Dywedodd Arwel Gruffydd: “Rwy’n falch iawn ein bod o’r diwedd yn gallu ail-lwyfannu’r sioe hon, wedi i’r rhediad yn 2020 gael ei dorri’n fyr, yn anffodus, oherwydd COVID. Rwyf wrth fy modd bod Theatr Gen yn cyd-gynhyrchu unwaith eto gyda Theatr y Sherman, yn arbennig felly gan mai yn ystod fy nghyfnod i fel Cyfarwyddwr Cyswllt y Sherman y bu imi gyfarwyddo Llwyth gyntaf un, yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. O’r holl gynyrchiadau theatr dwi wedi eu cyfarwyddo, Llwyth, heb os, yw’r un gafodd yr effaith fwyaf arnaf. Roedd yn drobwynt yn fy ngyrfa, yn ogystal ag yn ‘foment’ yng nghyd-destun ehangach theatr Gymraeg, fe ellir dweud. Rwy’n methu aros i fynd yn ôl i’r ystafell ymarfer at y cymeriadau rhyfeddol hyn mae Daf wedi’u creu, ac i rannu gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru y rhan ddiweddaraf o’r stori ryfeddol am eu bywydau cyffrous a lliwgar. Mae Tylwyth yn dathlu hunaniaeth Gymreig, ond yn rhoi ysgytwad dda iddi hefyd; ond, fel y gwnaeth Llwyth, mae’n gwneud hynny gydag emosiwn go iawn, gyda llawenydd a dagrau, ac yn bennaf oll, gyda chariad . . . o, gan daflu cân neu ddwy i mewn i’r pair hefyd! Cydiwch yn dynn yn eich hetiau!”
Mae Daf James yn ddramodydd, sgriptiwr, cyfansoddwr a pherfformiwr poblogaidd, ac yn Artist Cyswllt Theatr y Sherman. Llwyth – drama lawn gyntaf Daf – “pioneered a bold new Welsh-language theatrical vernacular… [which] changed the landscape of Welsh-language theatre forever.” (The Guardian/Contemporary Welsh Plays.) Ar hyn o bryd mae Daf yn gweithio ar ddrama deledu newydd, bwysig, ac addasiad ffilm o On the Red Hill gan Mike Parker.
Meddai Dafydd James: “Roedd Llwyth yn ddrama mor bwysig i mi, yn bersonol ac yn wleidyddol. Do’n i erioed wedi breuddwydio y byddai’n cael yr ymateb a wnaeth, nac y byddai’n mwynhau’r fath hirhoedledd! Ers y ddrama honno, mae gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth hoyw wedi newid yn sylweddol – fel yr wyf finnau, ers dod yn dad. Felly ro’n i’n teimlo rheidrwydd i ysgrifennu ail ran i Llwyth, gan ymateb i rai o’r newidiadau hynny. Mae Tylwyth wedi’i hysbrydoli gan brofiad personol, ond mae hefyd yn rhan o naratif diwylliannol ehangach sy’n parhau i esblygu. Mae’n wir yn anrhydedd cael y cyfle i rannu’r stori hon gyda ffans y ddrama wreiddiol, yn ogystal â gyda chynulleidfaoedd newydd.’’
Dywedodd Julia Barry, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman: “Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio unwaith eto gyda Theatr Genedlaethol Cymru i gyd-gynhyrchu a theithio Tylwyth. Mae Daf, sy’n un o Artistiaid Cyswllt y Sherman, wedi ysgrifennu drama ryfeddol sy’n edrych ar y problemau cyffredinol sy’n wynebu cymdeithas gyfoes yng Nghymru heddiw, yn cael eu gweld drwy lygaid y grŵp hwn o ffrindiau y cawsom ein cyflwyno iddynt gyntaf yn Llwyth. Mae Tylwyth yn ychwanegiad sylweddol at y casgliad o ddramâu Cymraeg, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei rhannu gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru.”
Isod, gellir gweld y manylion llawn am ddyddiadau a lleoliadau’r perfformiadau. Bydd tocynnau ar werth yn y rhan fwyaf o leoliadau o 10 Chwefror 2022.
Theatr y Sherman, Caerdydd
26 – 30 Medi 2022
Ffwrnes, Llanelli
5 – 7 Hydref 2022
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
11 Hydref 2022
Galeri, Caernarfon
14 + 15 Hydref 2022
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
18 + 19 Hydref 2022
Hafren, Y Drenewydd
21 Hydref 2022
Theatr Mwldan, Aberteifi
25 Hydref 2022
Pontio, Bangor
28 + 29 Hydref 2022