Tirweddau Iaith – Language Landscapes

Taith glywedol newydd i seinweddau byd natur ac iaith.

Yn dilyn ei gyfnod yn Theatr y Sherman, mae Tirweddau Iaith bellach wedi’i osod yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Eryri ym Metws-y-Coed (8 Mawrth – 26 Ebrill).

Archwiliwch i mewn i fyd natur gyda pedair drama sain fer gyda’r pwyslais ar y geiriau, y chwedlau a’r atgofion sy’n llunio ein cysylltiad i rywle.

Yn ein hoes ddigidol, a’n cyfnod o newid hinsawdd, mae’r gweithiau hyn yn eu tro yn archwiliadau telynegol, doniol a chalonogol o’r berthynas oesol rhwng iaith a thirwedd.

Gallwch ddewis i wrando ar unrhyw un o’r isod, neu i’r pedwar darn i gyd. Mae pob darn yn parhau tua 15 munud.

Mae’r darnau hyn yn cynnwys cyfeiriadau i alar, colled a homoffobia

Yr Arallfyd (The Other World) gan Mari Izzard yn Gymraeg.
Ar ei diwrnod cyntaf yn gweithio i’r comisiwn coedwigaeth, mae Buddug ar ganol penderfyniad mawr gyda’i chariad, pan mae’n syrthio mewn (yn llythrennol) i chwedloniaeth Cymru.
Iaith: Cymraeg
Cyfarwyddwr: Izzy Rabey
Cynlunydd Sain a Chyfansoddwr: Tic Ashfield
Actorion: Elin Gruffydd, Joel Edwards, Ieuan Rhys

Trawsgrifiad Cymraeg
Trawsgrifiad Saesneg

Gathering Day (Diwrnod Casglu) gan Natasha Kaeda yn Saesneg.
Mae gwraig mewn oed yn ail droedio y llwybr arweiniodd at chyfarfod ei gwr gan deithio trwy’r atgofion a’r tirwedd a luniodd eu bywydau gyda’i gilydd.
Iaith: Saesneg
Cyfarwyddwr: Fay Lomas
Cynlunydd Sain a Chyfansoddwr: Lee Affen
Dramatwrg: Tommo Fowler
Actorion: Sharon Morgan, Kyle Lima, Ceri Lloyd, Bethan McLean

Trawsgrifiad Cymraeg
Trawsgrifiad Saesneg

Lleisiau Milltir Sgwâr (Voices of the Square Mile) gan Alice Eklund: Darn gair am air yn Gymraeg
Mae caleidosgop o leisiau yn archwilio’r ffyrdd y mae’r iaith Gymraeg, tirwedd a chwedlau yn diffinio sut maen nhw’n gweld byd natur. Wedi’i dynnu o weithdai a chyfweliadau gyda chyfranogwyr ledled Cymru.
Creawdwr: Alice Eklund
Cynlunydd Sain: Tic Ashfield

Trawsgrifiad Cymraeg
Trawsgrifiad Saesneg

Acorn (Mesen) gan Tommo Fowler a Fay Lomas: Darn gair am air yn Saesneg
Taith bersonol i dirwedd mewn oes ddigidol, gan dreiddio i mewn i eiriau natur, enwau lleoedd a straeon. Mae hwn yn archwiliad o’r iaith a gollwyd, a’r iaith ag enillwyd. Wedi’i dynnu o weithdai a chyfweliadau gyda chyfranogwyr ledled Cymru, gan gynnwys nifer o grwpiau o’r Sherman.
Cyd-greawdwyr: Tommo Fowler a Fay Lomas
Cynlunydd Sain a Chyfansoddwr: Lee Affen
Gyda rhai cyfraniadau wedi’i lleisio gan Sharon Morgan, Kyle Lima, Ceri Lloyd, Bethan McLean ac Isabella Colby-Brown

Trawsgrifiad Cymraeg
Trawsgrifiad Saesneg

Gosodiad Gweledol wedi’i greu gan Sophie Thomas ar gyfer McGregor Coxall.
Cynllun Gwaith Celf gan Ciaran Walsh

Bydd trawsgrifiadau (yn eu hiaith wreiddiol) a chyfieithiadau ar gael o bob darn.

Mae’r darnau yn rhad ac am ddim. Rydym yn disgwyl bydd rhan fwyaf o wrandawyr yn profi’r darnau trwy sganio cod QR a gwrando ar eu ffonau a’u clustffonau eu hunain. Mae chwaraewyr MP3 a chlustffonau ar gael ar gais.

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Theatr y Sherman a Pharc Cenedlaethol Eryri.