Dewisiadau Sherman 5

Mae aelodau Sherman 5 yn cael tocynnau gostyngedig ar gyfer detholiad o berfformiadau yn Theatr y Sherman:

Dyma’r cynigion sydd ar gael. Bydd sioeau pellach yn cael eu hychwanegu trwy gydol y tymor:

Housemates (22 Chwe – 01 Maw 2025)

Fe wnaeth cyflwyniad Tim Green o stori anhygoel a ddigwyddodd ond metrau o ddrysau’r Sherman ryfeddu cynulleidfaoedd ac ennill canmoliaeth frwd gan adolygwyr yn 2023. Dyma stori am ffrindiau a sbardunodd chwyldro a ddaeth â gofal sefydliadol i ben a sefydlu cartref byw â chymorth cyntaf y DU.

Hot Chicks (21 Maw – 05 Ebr 2025)

Penlan, Swansea. Nawr. Yn eu harddegau, mae Ruby a Kyla yn treulio’u nosweithiau yn siop gyw iâr Cheney’s, yn breuddwydio am symud i Vegas a mynd yn feiral. Ar hap maent yn cwrdd â Sadie, merch hŷn, llawer mwy cŵl, ac yn sydyn mae eu breuddwydion am bartïon pwll nofio a rholio mewn doleri o fewn eu cyrraedd… ond am ba bris?

Port Talbot Gotta Bansky (02 Mai – 10 Mai 2025)

Rhagfyr 2018, mae Banksy yn cyflwyno anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot pan mae un o’i furluniau yn ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol gan roi sylw rhyngwladol i’r dref. 2024, mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto pan mae diwedd cynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth, diwydiant sydd mor hanfodol i’r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.

The Women of Llanrumney (26 Ebr – 10 Mai 2025)

Azuka Oforka’s award-winning, acclaimed historical drama returns due to phenomonal demand.

Wales’ colonial past is confronted head-on in Azuka Oforka’s devastating historical drama. Set in 18th century colonial Jamaica, this searing play powerfully explores the experience of women during slavery – those who benefited from it, those who were brutalised by it and those who fought to destroy it. The Women of Llanrumney puts Wales’s role in slavery centre stage; illuminating a hidden chapter of Welsh history.

Alice: Return to Wonderland (28 Tach 2025 – 3 Ion 2026) 

Y Nadolig nesaf, bydd Hannah McPake (Tales of the Brothers Grimm) yn mynd â chi ar antur newydd sbon o strydoedd llwm Caerdydd wedi’r rhyfel, i Wonderland.

Biwti a Brogs (24 Nov 2025 – 3 Jan 2026) 

Tre Melys. Nawr. Dewch i Stiwdio’r Sherman a chamu i fyd gwbl hudolus gyda fersiwn newydd Gwawr Loader o stori’r Tywysog Broga gan y Brodyr Grimm. Mae’r perfformiad yma yn berffaith ar gyfer oedrannau 3-6. Hefyd ar gael yn Saesneg: The Frog Prince. 

Gall aelodau Sherman 5 archebu tocynnau ar gyfer y sioeau hyn am bris arbennig Sherman 5 sef £7.50 (£3.75 i rai dan 25) drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 neu ebostio box.office@shermantheatre.co.uk