Nod Theatr y Sherman yw diogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed sy’n cymryd rhan yn y Celfyddydau, a bydd yn sicrhau bod ei rheolwyr, staff, sefydliadau partner, contractwyr a gwirfoddolwyr yn ymrwymo i arfer da sy’n amddiffyn plant, pobl ifanc, ac oedolion bregus rhag niwed.
Mae modd lawrlwytho ein pedair dogfen bolisi o’r dudalen yma.