Mae cronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi ysgolion prif ffrwd i fynd â’u dysgwyr i gael profiadau celfyddydol o safon. Gallwch wneud cais am hyd at 90% o gost eich taith. Er mai gweld gwaith sydd wrth wraidd y gweithgareddau hyn, gall y gronfa hefyd dalu am wibdeithiau i weithdai neu gyflwyniadau sy’n cyfoethogi’r profiad yn gyffredinol. Nid yw’r gronfa ar gael i golegau addysg bellach neu i ddysgwyr dros 16 oed.
Dylid cyflwyno ceisiadau bum wythnos cyn i’r gweithgaredd ddigwydd. Gwnewch gais cyn 12 Gorffennaf 2024 os ydych chi angen ateb cyn mis Medi.
Mae’r ffurflen a chanllawiau pellach am gronfa Ewch i Weld ar gael yma.
Pe baech yn penderfynu gwneud cais i’r gronfa Ewch i Weld am gymorth i ddod â grŵp ysgol i weld Odyssey ’84, bydd angen y wybodaeth isod arnoch i gwblhau’r ffurflen, yn ogystal â manylion am nifer y disgyblion, y categori oedran a’r brif ffurf gelfyddyd y byddwch yn ei brofi.
Dyddiad eich ymweliad:
Dewiswch y diwrnod yr hoffech chi ddod i’r theatr, rhwng dydd Mercher 16 Hydref a dydd Sadwrn 26 Hydref.
Cost eich ymweliad:
Dylai cyfanswm y gost gynnwys costau tocynnau a/neu gludiant.
Cyfanswm swm eich cais i gronfa Ewch i’w Weld:
Mae angen i’r swm hwn fod yn rhif cyfan hyd at £1000 a dim mwy na 90% o gyfanswm cost eich ymweliad.
Rhif Cod 7 Digid yr Ysgol
Gellir dod o hyd i’ch rhif yma.
Enw’r lleoliad neu’r ardal yng Nghymru yr hoffech ymweld:
Theatr y Sherman, Caerdydd
Enw’r profiad celfyddydol o safon yr hoffech ei fynychu: Odyssey ‘84
Disgrifiad o’r hyn y bydd y dysgwyr yn ei wneud yn ystod eu hymweliad a sut bydd y profiad yn ychwanegu gwerth at weithgareddau cwricwlwm y dysgwyr ac ym mha faes(meysydd) pwnc:
Mae Odyssey ‘84 yn ddrama newydd a fydd yn cyflwyno dysgwyr i gymhlethdodau Streic y Glowyr 1984, amser hollbwysig yn hanes Prydain, ac yn berthnasol i Dde Cymru yn arbennig. Bydd yn gwahodd cynulleidfaoedd i ystyried y dirwedd wleidyddol 40 mlynedd yn ôl, effaith cau’r pyllau ar y gymuned a chanlyniadau seismig y gwrthdaro. Mae’r ddrama yn ymdrin â phynciau sy’n ymwneud â sawl maes o’r cwricwlwm, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth ddynol, a llywodraeth a gwleidyddiaeth. Yn ogystal, bydd ffurf glasurol ac arddull epig y ddrama o ddiddordeb i fyfyrwyr Drama a Llenyddiaeth Saesneg.
Bydd cymryd rhan mewn gweithdy yn ennyn diddordeb dysgwyr ymhellach trwy archwiliad manwl o’r cyfryngau, celf brotest a/neu adrodd straeon epig, gan gysylltu â meysydd pwnc arbenigol pellach, gan gynnwys y Clasuron, Astudiaethau’r Cyfryngau, Cymdeithaseg, Celf, Saesneg ac Astudiaethau Theatr. Er bod llawer o’r pynciau hyn yn bennaf yn cael eu hastudio ar gyfer Safon Uwch, maent hefyd yn rhan o gwricwlwm ehangach pynciau eraill ar lefel TGAU. Mae ymweliad i weld Odyssey ’84 hefyd yn cefnogi pedwar piler y cwricwlwm Cymreig newydd, yn benodol, y nod o gynhyrchu ‘dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd’, gyda’r cyfle unigryw hwn i ddeall hanes cyfoes Cymru yn well. Mae Odyssey ’84 yn enghraifft wych o sut y gall y Celfyddydau Mynegiannol hwyluso’r gwaith o archwilio amryw o bynciau a syniadau ar draws y cwricwlwm, mewn ffordd hygyrch a chyffrous.
Cadarnhewch sut y byddwch yn cyfateb i 10% o gyfanswm cost eich ymweliad:
Gallai hyn fod drwy gronfeydd yr ysgol, cyfraniadau rhieni, neu gymorth wrth athrawon/cyflenwyr.
Ieithoedd a Ddefnyddir:
Darn Saesneg yw Odyssey ’84, ond gellir cyflwyno gweithdai trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog ar gais.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: community@shermantheatre.co.uk