Mae ein rhaglen Sherman 5 yn gweithio gyda chyfungyrff partnerol i groesawu cymuned ffoaduriaid a cheiswyr noddfa Caerdydd i’r theatr. Mae aelodau o’r gymuned wedi cymryd rhan mewn gweithdai arbennig ac wedi dod i adnabod y Sherman trwy deithiau wedi’u harwain gan aelodau o dim y theatr. Mae sawl aelod o’r cymunedau hyn wedi cofrestru i ymuno â Sherman 5 er mwyn datblygu eu cysylltiad â’n theatr. Mae cynlluniau cyfredol yn cynnwys prosiect gydweithrediadol gyda Chôr One World.
Rydyn ni’n cymryd ein rôl o godi ymwybyddiaeth o brofiadau ceiswyr noddfa yn ein dinas o ddifrif, yn ogystal â’r cyfraniad anferthol y maent yn ei gynnig i Gaerdydd.
Yn ddiweddar fe wnaethon ni weithio mewn partneriaeth â Chôr One World i gyfansoddi a recordio cân newydd, yn adlewyrchu profiadau’r bobl hynny sy’n chwilio am noddfa yn ein dinas.
Mae Theatr y Sherman yn cynnig y canlynol i bobl sy’n chwilio am noddfa yn ninas Caerdydd:
• Croeso cynnes
• Tocynnau am ddim i Geiswyr Noddfa
• Cyfleoedd i wirfoddoli
• Cefnogaeth cyn-sioe ar gyfer ymweliadau grŵp
• Mynediad i gyfleoedd addysgu / teithiau theatr / brofiadau gweithdy