Archebwch am Sherman Players

Dysgwch fwy am Sherman Players ac archebwch ar gyfer Tymor y Gwanwyn

Adolygiad

Tymor y Gwanwyn
7.30yh - 9.30yh
120mins
Rhannwch

Grŵp theatr yw Sherman Players yn bennaf, ond mae ein sesiynau yn cael eu harwain gan dîm ymroddedig sydd hefyd yn ehangu’r sesiynau tu hwnt i actio a theatr yn unig. Rydyn ni’n defnyddio’r technegau hynny i’ch helpu chi i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd, cael hwyl a chwrdd â phobl newydd. Rydyn ni’n gwybod bod y sgiliau hyn yr un mor bwysig ag unrhyw brofiadau theatrig rydych chi’n eu profi gyda ni.

Bydd pob wythnos yn dod â gwahanol gyfleoedd i ddysgu am greu theatr trwy gynllunio, ysgrifennu sgriptiau ac actio.

Mae Sherman Players yn agored i bawb waeth beth fo’u gallu neu eu hamgylchiadau. Rydym yn gwybod y bydd rhai pobl yn awyddus i ymuno, ond yn teimlo’n ansicr am gymryd y cam cyntaf.

Rydym yma i’ch cefnogi chi. Rydym yn sicr y gallwn ddiwallu y mwyafrif o anghenion a gofynion. Os hoffech chi gael sgwrs, cysylltwch â Ffion Denman ffion.denman@shermantheatre.co.uk

YMUNWCH NAWR

Nid oes lleoedd ar gael ar hyn o bryd i ymuno â’r Sherman Players ar gyfer tymor yr Haf. I ymuno â’r rhestr aros cysylltwch a Ffion yn y tîm Ymgysylltu Creadigol: ffion.denman@shermantheatre.co.uk

Mae sesiynau Sherman Players yn cael eu cynnal bob nos Iau rhwng 7.30yh – 9.30yh yn ystod y tymor ysgol ac yn costio £60 fesul hanner tymor.

Mae’r sesiynau yn wythnosol ond does dim pwysau i chi fynychu bob un.

 

THE GRAND
Yn haf 2021 fe wnaeth Sherman Players greu, ysgrifennu a pherfformio pum ffilm fer am ddigwyddiadau amheus yn ystod un noson stormus mewn hen westy.

Darganfyddwch mwy a gwyliwch y ffilmiau.