Gallwch gwrdd â'r tîm am gymorth neu gyngor ar waith penodol sydd ar y gweill, neu am sgwrs gyffredinol.
Anfonwch e-bost at literary@shermantheatre.co.uk i archebu amser gydag aelod o’n tîm llenyddol.
Bydd sesiynau Pit Stop yn cael eu cynnal bob prynhawn dydd Iau rhwng 2pm a 4pm. Bydd pob sesiwn yn para hyd at awr. Yn dibynnu ar amserlen yr adran efallai y bydd cyfleoedd i drefnu sesiwn ar ddiwrnodau eraill.
Wrth wneud cais am sesiwn Pit Stop, nodwch a fyddai’n well gennych fynychu dros Zoom, a rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith ar gyfer eich sesiwn.
Ddylech chi ddim defnyddio’r amser yma i drafod eich cyflwyniad Sgript Ddigymell gan fod gan y cynllun hwnnw ei system adborth ei hunan ar waith. Rhagor o wybodaeth am Sgriptiau Digymell.