Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i ni yn fwy nag erioed pa mor bwysig yw meithrin a rhoi llwyfan i leisiau’r rhai y mae arnynt ei angen fwyaf. Felly, wrth i ni ail-lansio Lleisiau nas Clywir, rydyn ni’n ehangu ein cronfa o awduron cymwys i sicrhau ein bod ni’n grymuso rhagor o awduron o wahanol gefndiroedd a phrofiadau byw. Rydyn ni’n ymwybodol iawn bod hon yn daith hir a chymhleth a dyma’r camau cyntaf, ond rydyn ni’n ymroddedig ac yn barod i wrando ac i ddysgu, a datblygu profiad parhaus gyda’n cymuned helaeth ac amrywiol o awduron.
Rhaglen newydd gan Theatr y Sherman yw Lleisiau nas Clywir sy’n helpu i sicrhau bod lleisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn cael eu clywed. Yn ei blwyddyn gyntaf, bydd Lleisiau nas Clywir yn cefnogi 20 o sgriptwyr o Gymru neu sy’n gweithio yng Nghymru sy’n un neu’n fwy o’r canlynol:
· Yn fenyw
· O Gymuned Ethnig Amrywiol
· Yn LHDTC+
· Yn F/fyddar neu’n anabl
Ein nod yw cysylltu, ysbrydoli a grymuso.
Beth fydd yn digwydd dros y flwyddyn?
Mae Lleisiau nas Clywir yn gyfle gwerthfawr i rannu eich llais a chael cefnogaeth gan eich cyfoedion a Theatr y Sherman. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ysgrifennu drwy gyfres o 12 dosbarth meistr a gyflwynir gan ffigurau allweddol ym maes theatr, sy’n arddel hunaniaeth fel un neu nifer o’r nodweddion uchod.
Bydd dau ddosbarth meistr ar-lein y mis. Rydyn ni hefyd yn credu bod mynediad at y theatr yn hanfodol. Yn ystod y rhaglen yma, byddwch yn cael eich gwahodd i nosweithiau i’r wasg ar gyfer cynyrchiadau Theatr y Sherman sy’n gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr. Mae croeso i chi ddod i weithio a threulio amser yng nghyntedd Theatr y Sherman hefyd, a mwynhau gostyngiad ar ddiodydd di-alcohol a bwyd ym Mar Caffi’r Sherman. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd pob awdur yn cael eu gwahodd i fwynhau penwythnos hollgynhwysol o dan arweiniad Tîm Artistig Theatr y Sherman i fyfyrio, rhannu gwaith a thrafod eu profiadau ar y rhaglen, a chyfleoedd yn y dyfodol.
Beth ydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ei gael o’r flwyddyn?
Byddwch wedi cael cyfle i ddysgu gan ymarferwyr arbenigol a chysylltu â nhw, i ddatblygu eich rhwydweithiau yn y diwydiant ac i fagu hyder yn rhannu eich stori gyda’r nod o barhau i wneud hynny. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y byddwch wedi elwa o gysylltu ag aelodau o dîm Theatr y Sherman yn ystod eich amser gyda ni, gan gynnig lle i chi gael profiad o weithio gyda sefydliad ac fel rhan ohono. Ar ôl i’r rhaglen ddod i ben, rydyn ni’n gobeithio y byddwch yn teimlo eich bod wedi adeiladu llwyfan lle gallwch ddatblygu eich gyrfa ymhellach a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ac y bydd perthynas barhaus â ni.
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?
Mae’r rhaglen ar gyfer sgriptwyr o Gymru neu sy’n gweithio yng Nghymru sydd ag unrhyw lefel o brofiad ac yn 18+ oed. Does dim angen i chi fod â phrofiad helaeth mewn ysgrifennu ar gyfer unrhyw gyfrwng, rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â stori i’w hadrodd ac ar frys i wneud hynny. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gennych os nad ydych wedi cael gwaith wedi’i lwyfannu neu ei gomisiynu eto. Cafodd rhaglen Lleisiau nas Clywir ei chreu i lwyfannu a chefnogi straeon newydd a chyffrous.
Pwy fydd yn penderfynu pwy fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen?
Bydd panel o ymarferwyr theatr amrywiol yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy’n awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen. Mae 20 lle ar gael, a bydd llefydd yn cael eu cynnig yn seiliedig ar botensial yn unig.
Cyfranogwyr 2022
Yr ysgrifenwyr a fydd yn rhan o raglen Lleisiau Nas Clywir 2022 yw: Angharad Tudor, Azuka Oforka, Beli Evans, Bethany Handley, Danielle Fahiya, E. E. Rhodes, Emmy Stonelake, Greg Glover, Hannah Lad, Hari Raelyn, Juliette Manon, Kay R. Dennis, Laura Inkpen, Lauren Morais, Lily Beau Conway, Nerida Bradley, Roanna Lewis, Seren Fflŷr Hamilton, Sherrall Morris, a Simon Dollinger.
Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr ar-lein a gyflwynir gan ffigurau allweddol yn y diwydiant theatr, gan gynnwys: Alistair Wilkinson, Jo Clifford, Kaite O’Reilly, Lucy Morrison, Morgan Lloyd Malcolm, Nina Steiger, Shahid Iqbal Khan, Sharon Clark, Sita Thomas, Tabby Lamb a Tom Wentworth.