Anfonwch Eich Sgript

Mae Sgriptiau Digymell yn gyfle i’r Sherman ddarganfod awduron gwych sydd â straeon cyffrous i’w hadrodd, ac yn gyfle gwych i chi gael darlleniad o’ch gwaith.

Os hoffech gyflwyno sgript ddigymell, anfonwch hi at: scripts@shermantheatre.co.uk

Rydyn ni’n croesawu cyflwyniadau gan awduron 18+ oed o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru ac rydyn ni’n derbyn sgriptiau drwy gydol y flwyddyn.

Am beth ydyn ni’n chwilio:

  • Dramâu gan artistiaid o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru.
  • Dramâu Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.
  • Dramâu ar gyfer y llwyfan.
  • Dim ond dramâu hyd llawn y gallwn ni eu derbyn. Fel arfer byddai drama lawn yn cynnwys o leiaf 60 munud o ddeialog, neu 45 munud ar gyfer monolog.
  • Allwn ni ddim derbyn mwy nag un cyflwyniad gan awdur ar unrhyw un adeg.
  • Allwn ni ddim ystyried drafftiau newydd na dramâu a gaiff eu hailgyflwyno rydyn ni eisoes wedi’u darllen ac wedi ymateb iddyn nhw, oni bai ein bod wedi gofyn yn benodol am ddrafft newydd.

Dylech gyflwyno eich sgript fel dogfen PDF neu Word.

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch sgript, byddwch yn cael cydnabyddiaeth awtomatig. Yna byddwn yn anelu at ymateb i bob sgript gyda chanlyniad penodol o fewn pedwar mis.