Tylwyth – Drama wedi’i llofnodi
£15
Pob pris yn cynnwys TAW
Eisiau anrheg arbennig ar gyfer carwyr drama yn eich bywyd? Prynwch y copi unigryw yma o Tylwyth gan Daf James. Sydd wedi'i llofnodi gan Daf James.
Mae ein hawduron yn hael wedi arwyddo nifer cyfyngedig o'u testunau chwarae i'n cefnogi i godi arian ychwanegol i'r Sherman y Nadolig hwn.
Gan Daf James. Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae’r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd. Dros ddegawd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.