The Women of Llanrumney – Ddrama wedi’i llofnodi.

NadoligSgript

The Women of Llanrumney – Ddrama wedi’i llofnodi.

£15

Item added to basket

Add to basket failed. Please reload the page and try again

Pob pris yn cynnwys TAW
Eisiau anrheg arbennig ar gyfer carwyr drama yn eich bywyd? Prynnwch copi o The Women of Llanrumney - sydd wedi'i llofnodi gan Azuka Oforka. Mae drama hanesyddol arobryn Azuka Oforka yn dychwelyd diolch i alw aruthrol. Mae drama hanesyddol ddinistriol Azuka Oforka yn wynebu gorffennol trefedigaethol Cymru benben. Wedi’i gosod yng nghyfnod trefedigaethol Jamaica yn y 18fed ganrif, mae’r ddrama danbaid hon yn archwiliad pwerus o brofiad menywod yn ystod caethwasiaeth – rheiny ag elwodd ohono, rheiny a brofodd ei greulondeb, a’r rheiny a frwydrodd i’w ddinistrio. Mae The Women of Llanrumney yn rhoi Cymru a’i rhan yng nghaethwasiaeth yng nghanol y llwyfan; gan oleuo pennod gudd yn hanes Cymru. Yr hanes: Planhigfa Llanrumney. Plwyf Saint Mary, Jamaica. 1765. Mae Annie a Cerys wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan o Gymru. Mae eu dyfodol yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth all fod o’i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond hwyr neu’n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu o’i chwmpas, bydd yn rhaid i Annie wynebu’r arswyd a’r trawma o’i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi. Mae dychweliad y ddrama arobryn, gymeradwyol a chlodwiw hon yn debygol o fod yn un o sioeau mwyaf poblogaidd 2025. Cyflwynir gan Stratford East a Theatr y Sherman. Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Theatr y Sherman.