Sgript The Wife of Cyncoed
£7
Pob pris yn cynnwys TAW
Gan Matt Hartley
Dewch i weld eich dinas a’ch strydoedd dan olau newydd gyda drama un fenyw, hynod o ddifyrrus Matt Hartley, yn serennu Vivien Parry (Cabaret yn y Kit Kat Club West End).
Mae bywyd Jayne wedi cyrraedd croesffordd. Wedi ei magu yn Nhredelerch, bu’n byw bywyd da yng Nghyncoed, ond ar ôl ysgariad chwerw symudodd i fyw ar ei phen ei hun yn Lakeside. Newydd ymddeol ac yn chwith gyda’i phlant, yn ddirybudd mae’n dod ar draws ffordd newydd o fyw. Ond a wneith hi ganiatáu ei hun i fyw ei bywyd newydd yn gyflawn?
Yn dyner a phleserus, mae The Wife of Cyncoed yn stori am hunan ddarganfyddiad sydd hefyd yn llawn bywyd a chwerthin. Erbyn diwedd stori Jayne, byddwch chi’n gwybod nad yw hi byth yn rhy hwyr am gyfle arall a darganfod pwy ydych chi mewn gwirionedd.