The Cherry Orchard
£9.99
Pob pris yn cynnwys TAW
Gan Gary Owen.
Mae Bloumfield yn eistedd yn llygad yr haul ar arfordir de Sir Benfro; hen blasty simsan a di-drefn lle magodd Rainey ei phlant, wedi'i amgylchynu gan draethau euraidd a pherllannau gwyrdd toreithiog. Ond wedi marwolaeth ei hanwyl fab a'i gwr, fe wnaeth Rainey ffoi i Lundain, gan gefnu ar yr hyn oedd yn weddill o'i theulu. Nawr, gyda’r banc yn bygwth adfeddiannu, mae merched Rainey yn ei llusgo’n ôl i Bloumfield. Bydd yn rhaid i Rainey wynebu hen ysbrydion - a'i merched cynddeiriog - neu golli popeth.
Yn y fersiwn newydd hon o gampwaith Chekhov mae Gary Owen yn ail-leoli’r digwyddiadau o Rwsia cyn y chwyldro, i gyfnod arall oedd ar drothwy newid cymdeithasol enfawr – Sir Benfro’r 80au cynnar ar ddechrau cyfundrefn Margaret Thatcher.
Perfformiwyd The Cherry Orchard gan Gary Owen am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman ym mis Hydref 2017.