Sgript Odyssey ’84

NewyddSgript

Sgript Odyssey ’84

£7.00

Item added to basket

Add to basket failed. Please reload the page and try again

Pob pris yn cynnwys TAW
Mae’r personol a’r gwleidyddol yn gwrthdaro yn nrama epig a phwerus Tim Price sy’n ail gyflwyno Streic y Glowyr, 1984, wedi’i ysbrydoli gan Odyssey gan Homer. “Felly. Dyn o droeon mawr. Adrodda i ni dy stori. O’r dechrau.” Drama deimladwy, angerddol a dirdynnol, mae Odyssey ’84 yn creu darlun o’r anturiaethau a ddaw wrth i ni ddilyn ein delfrydau. Ar gychwyn y streic a’r anghytundeb gyda Llywodraeth Prydain mae’r glöwr John O’Donnell (Odysseus) yn cael ei hun mewn brwydr i oroesi, brwydr sy’n mynd ag e ymhell o Dde Cymru. Yn y cyfamser, gartref mae ei wraig Penny (Penelope) yn mynd ar siwrnai bersonol epig ei hun wrth iddi geisio cefnogi ei chymuned. Pan mae’r ddau’n dod yn ôl at ei gilydd, nid yn unig yw’r byd o’u cwmpas wedi newid, ond maen nhw wedi hefyd. Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy, (Housemates, Tales of the Brothers Grimm) yn cyfarwyddo cast rhagorol sy’n cynnwys Rhodri Meilir fel O’Donnell a Sara Gregory fel Penny. Gyda set anhygoel a thrac sain yn llawn cerddoriaeth yr 80au, mae Odyssey ’84 yn addo profiad theatraidd trawiadol i nodi 40 mlynedd ers un o gyfnodau mwyaf cythryblus ein hanes diweddar. Mae Odyssey ’84 yn ddathliad o bŵer cymuned a gwir ystyr undod.