YMGYSYLLTU CREADIGOL – DWY SWYDD NEWYDD

Math
Rhan amser (19.5awr)
Cytundeb
Parhaol
Cyflog
£24,476 y flwyddyn pro rata
Application closing date
Mon 10 Mar 2025
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Cydlynydd Ieuenctid ac Addysg, a Chydymaith Cymunedol, i gefnogi’r gwaith o weinyddu a chydlynu gweithgarwch Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman. Cefnogir y swyddi hyn gan Sefydliad Moondance a byddant yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran Ymgysylltu Creadigol a thîm ehangach y Sherman i sicrhau y darperir rhaglen eang o fentrau cyfranogol a mentrau datblygu cynulleidfaoedd. Cynigir y swyddi hyn fel swyddi rhan amser (19.5 awr), parhaol. Mae Theatr y Sherman yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n dymuno ymgymryd ag un swydd neu'r ddwy swydd. Dyddiad cau: 12 ganol dydd, dydd Llun 10 Mawrth 2025. Cyfweliadau: dydd Llun 17 Mawrth 2025 a dydd Mawrth 18 Mawrth 2025.