Mae Theatr y Sherman, Caerdydd, yn chwilio am Reolwr Gweithdy newydd i arwain ar waith adeiladu a gorffen setiau ar gyfer ei holl gynyrchiadau. Mae’r swydd yn cwmpasu ystod eang o ddyletswyddau, a bydd angen i’r unigolyn a benodir fod yn frwdfrydig ac yn awyddus, gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Rheolwr y Gweithdy sy’n gyfrifol am reoli a darparu gwasanaethau gweithdy Theatr y Sherman yn effeithiol ac yn effeithlon. Bydd deiliad y swydd yn Rheolwr yn Adran Gynhyrchu’r cwmni, ac felly bydd disgwyl iddynt wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad yr adran a’r Theatr. Mae Theatr y Sherman yn anelu tuag at yr ansawdd uchaf yn ei gwerthoedd cynhyrchu ac wrth ddarparu gwasanaethau gweithdy, a bydd gan ddeiliad y swydd ran allweddol yn y gwaith o gyflawni targedau ansawdd a datblygu a chynnal safonau.
Dyddiad cau: canol dydd ddydd Mawrth 06 Mai 2025
Cyfweliad: dydd Iau 15 Mai 2025