Rydyn ni’n chwilio am Reolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd er mwyn helpu Theatr y Sherman i gyflawni ei nodau busnes, drwy ddefnyddio eu hangerdd dros wasanaethu cynulleidfaoedd i gyflawni gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a mewnwelediadau dadansoddol.
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol yng ngwaith y Swyddfa Docynnau i ymuno â'n tîm angerddol, arbenigol ac ymroddedig tu hwnt fel Rheolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd. Mae hon yn rôl uwch yn y tîm Marchnata a Chyfathrebu sy'n canolbwyntio ar ddyfnhau ein perthynas â'n cynulleidfaoedd ar yr un pryd â chynhyrchu incwm a sicrhau’r incwm gorau posib.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgorffori rhagoriaeth wrth reoli systemau a phobl, gwasanaethau cwsmeriaid a chynhyrchu incwm. Rydym yn awyddus iawn i weld sut y gall yr unigolyn llwyddiannus helpu ein sefydliad i dyfu.
Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau b/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
I wneud cais am y swydd, llwythwch y pecyn cais, y ffurflen gais a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal i lawr a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk.
Dyddiad cau: Hanner dydd - ar Ddydd Llun 15 Gorffennaf 2024
Cyfweliadau: Gwener 19 Gorffennaf 2024
Cyllidir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.