Mae Theatr y Sherman yn chwilio am unigolyn deinamig sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i lenwi swydd barhaol, rhan amser o fewn tîm y Swyddfa Docynnau.
Bydd Goruchwylydd y Swyddfa Docynnau yn cefnogi Rheolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd drwy ddirprwyo yn eu habsenoldeb wrth gyflawni dyletswyddau craidd y Swyddfa Docynnau gan gynnwys darparu’r safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid, gwneud y mwyaf o gyfleoedd gwerthu, cynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata, a’r gorau o swyddogaeth Derbynfa Theatr y Sherman. Bydd y rôl yn cael ei llenwi gan siaradwr Cymraeg rhugl a fydd yn drafftio/cyfieithu ymadroddion byr o gopi a phrawf ddarllen copi Cymraeg yn ôl y gofyn.
Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Iau 6 Chwefror 2025.
Cyfweliadau: Dydd Gwener 14 Chwefror 2025
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.
I wneud cais am y swydd, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio, y ffurflen gais a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk.