Cynorthwyydd y Swyddfa Docynnau

Math
Hyblyg
Cytundeb
Cynigir y swydd fel cytundeb dim oriau
Cyflog
£11.54
Application closing date
Mon 11 Nov 2024
A all eich agwedd siriol a chymwynasgar roi croeso cynnes i’n cwsmeriaid, gan wneud iddynt fod eisiau ymweld â’r theatr dro ar ôl tro? Allwch chi ein helpu i werthu mwy o docynnau? Os felly, gallech fod yn rhan hanfodol o dîm y Swyddfa Docynnau.
Mwy o wybodaeth:
  • Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith yn newid o wythnos i wythnos.
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyflogi ar gontract dim oriau.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.

Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.

I wneud cais am y swydd, llwythwch y ffurflen gais, y daflen eglurhaol a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk.
Noder, yn unol â'n polisi amgylcheddol, mai dim ond ceisiadau electronig y byddwn yn ymdrin â nhw.


Cyfweliadau: Mercher 13 Tachwedd


Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.