CYFARWYDDWR ARTISTIG

Math
Llawn Amser
Cytundeb
Cyfnod Penodol - 5 Mlynedd
Cyflog
£65,000
Application closing date
Thu 27 Mar 2025
Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yw un o theatrau cynhyrchu pwysicaf gwledydd Prydain, ac mae’n cyflwyno rhaglen eang a chynhwysol sy’n canolbwyntio ar waith ysgrifennu newydd. Mae ei llinyn ‘Crëwyd yn y Sherman’ yn arddangos gwaith newydd gan awduron sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru, gan adrodd straeon sy’n taro tant gyda chynulleidfaoedd lleol, ar draws y de-ddwyrain a’r tu hwnt. Mae gan y Sherman gyfleusterau rhagorol yn theatrau’r Prif Dŷ a’r Stiwdio, a gofodau ymarfer a chapasiti cynhyrchu sylweddol.

Mae datblygu doniau o bob oed yn ganolog i’r Sherman, o’r Theatr Ieuenctid adnabyddus i’r Adran Lenyddol, sy’n canfod ac yn meithrin dramodwyr rhagorol y dyfodol. Mae’n un o bum theatr a sefydliad diwylliannol mawr ar draws y wlad sy’n dod ynghyd i gyflwyno Craidd, sef rhaglen sawl blwyddyn i greu a chyflwyno cynyrchiadau theatr gydag artistiaid theatr Byddar ac anabl. Mae’r Sherman hefyd yn Theatr Noddfa ddynodedig sy’n croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan ddarparu gofod diogel a chyfleoedd i feithrin cysylltiadau gyda’r gymuned leol.

Mae’r Sherman am benodi Cyfarwyddwr Artistig newydd i gynnal ei rhagoriaeth artistig, datblygiad y gynulleidfa a gwaith ymgysylltu cymunedol gweddnewidiol, gan fynd â’r theatr i uchelfannau newydd. Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn cydweithio’n agos â’r Prif Weithredwr ac yn adrodd i’r Bwrdd, a bydd yn gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth artistig nodedig sy’n cwmpasu pob llinyn o waith y Sherman, gan ysbrydoli ei rhanddeiliaid niferus. Bydd yn arwain y gwaith o wireddu holl gynyrchiadau a chyd-gynyrchiadau’r cwmni i’r safonau uchaf posibl, gan gyfarwyddo nifer i’w gytuno o gynyrchiadau bob tymor, a chynnull a chefnogi timau creadigol. Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn llefarydd angerddol ar ran y Sherman, a bydd yn hybu ei henw da yn allanol, gan sbarduno cefnogaeth a chyfleoedd newydd a sicrhau ar yr un pryd ei bod yn aros yn wybodus ac yn flaenllaw o ran datblygiadau ehangach yn y sector.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â hanes cryf o ddatblygu a chyfarwyddo cynyrchiadau a chyd-gynyrchiadau proffesiynol llwyddiannus ar wahanol raddfeydd ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd; comisiynu a meithrin awduron; a chyflawni cynlluniau artistig uchelgeisiol sy'n cyd-fynd â chenhadaeth y sefydliad, a hynny ar amser ac o fewn y gyllideb.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd a sut i wneud cais, llwythwch becyn gwybodaeth i lawr gan yr ymgynghorwyr recriwtio, AEM International Ltd, www.aeminternational.co.uk/current-opportunities.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Iau 27 Mawrth.

Mae’r Sherman wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol ac mae’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sy’n cael eu tangynrychioli yn y tîm ar hyn o bryd. Mae’r Sherman yn aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.