HOUSEMATES – CYNHYRCHIAD CANMOLEDIG THEATR Y SHERMAN A HIJINX – YN DYCHWELYD YN 2025

Announcements Castio
Mi fydd un o uchafbwyntiau rhaglen pen-blwydd Theatr y Sherman yn 50 yn dychwelyd i’r theatr yng Nghaerdydd - ac yn mynd ar daith o amgylch dau leoliad arall yng Nghymru - yn gynnar yn 2025.

Cydiodd Housemates gan Tim Green, sy’n adrodd stori ryfeddol a ddigwyddodd ychydig fetrau o ddrysau’r Sherman, yng nghalonnau cynulleidfaoedd ac enillodd ganmoliaeth enfawr gan feirniaid yn ystod ei rhediad gwreiddiol yn 2023.

Mae’r cynhyrchiad nawr yn paratoi i ddychwelyd i Theatr y Sherman (22 Chwe – 8 Maw 2025) cyn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (27-29 Mawrth) a Theatr y Torch , Aberdaugleddau (2-4 Ebrill). Caiff mwy o leoliadau eu cyhoeddi maes o law.

Yn y 1960au, gofal sefydliadol oedd ffawd llawer o bobl ag anabledd dysgu ac ni chafodd y sefyllfa fawr o her. Treuliodd llawer o bobl ag anableddau dysgu eu bywydau cyfan mewn sefydliadau, yn anaml yn gweld na’n dod ar draws y byd y tu allan. Ond wedyn, yn y 70au cynnar, digwyddodd rhywbeth syfrdanol mewn tŷ yng Nghaerdydd, stryd i ffwrdd o’r Sherman, a ddaeth yn fodel newydd ar gyfer y ffordd y mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi.

Mae’r ddrama hynod deimladwy hon yn llawn caneuon poblogaidd o’r 70au sy’n cael eu chwarae’n fyw, a caiff ei pherfformio gan gast o actor-gerddorion niwrowahanol a niwro-nodweddiadol gan gynnwys aelodau o Theatr Hijinx. Enwebwyd un ohonynt, Gareth John, am y wobr Y Perfformiwr Gorau mewn Drama yn The Stage Debut Awards 2024. Caiff Housemates ei chyd-gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y Sherman Joe Murphy a Chyfarwyddwr Artistig Hijinx Ben Pettitt-Wade.

Mae rhan mwyaf o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd, yn cynnwys yr actorion Hijinx Gareth John (Meet Fred Hijinx & Blind Summit, Club Supreme Hijinx & Ramshackalicious), Lindsay Spellman (Meet Fred Hijinx & Blind Summit, The Crash Test Hijinx), Matthew Mullins (Rock Cliché, The Crash Test Hijinx) a Richard Newnham (Meet Fred Hijinx a Blind Summit, The Crash Test Hijinx) ochr yn ochr â James Ifan (Tales of the Brothers Grimm, A Christmas Carol Theatr y Sherman), Caitlin Lavagna (Operation Julie Theatr na nÓg; Fisherman’s Friends: The Musical), Peter Mooney (Beautiful Curve Theatre/Theatre Royal Bath; Just So Watermill Theatre) ac Eveangeleis Tudball (Ysgrifennwr Talk to me Spectacle Theatre; Performwr Pirates of the Odyssey Inn Hijinx Odyssey.) Yn ymuno â nhw eleni mae Emily Ivana Hawkins (A Christmas Carol, O.G. Prince of Wales Theatr y Sherman),

Mae Innovate Trust, sef yr elusen a sefydlodd y tŷ dan yr enw CUSS, yn bartneriaid prosiect. Heddiw, mae Innovate Trust yn parhau i gefnogi a grymuso pobl ag anableddau dysgu ar draws de Cymru.

Theatr y Sherman a Hijinx yn cyflwyno
Housemates
gan Tim Green
a gefnogir gan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Cyd-gyfarwyddwyr Joe Murphy a Ben Pettitt-Wade
Cynllunydd Carl Davies
Dylunydd Goleuadau Rachel Mortimer
Trefnydd a Dylunydd Sain Tic Ashfield
Cyfarwyddwr Cerdd James Ifan
Peiriannydd Sain Chris Laurich
Cast: Gareth John, Lindsay Spellman, Matthew Mullins, Richard Newnham, Emily Ivana Hawkins, James Ifan, Caitlin Lavagna, Peter Mooney and Eveangeleis Tudball

22 Chwefror-8 Mawrth 2025
Theatr y Sherman
Ffordd Senghennydd
Caerdydd CF24 4YE

27-29 Mawrth 2025
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth SY23 3DE

2-4 Ebrill 2025
Theatr y Torch
Heol San Pedr
Aberdaugleddau SA73 2BU

Theatr y Sherman
Dychmygwch fyd sydd wedi’i wneud yn decach, yn fwy tosturiol, yn fwy unedig gan bŵer theatr. Cawn ein cymell i gyflawni’r weledigaeth hon bob dydd. Rydym yn gwneud hyn drwy greu a churadu profiadau theatr byw a rennir sy’n ysbrydoli pobl o bob cefndir ar draws De Cymru i wneud byd gwell, yn eu ffordd eu hunain. Credwn fod mynediad i greadigrwydd a hunanfynegiant yn hawl ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael eu cyfoethogi gan gelfyddyd y theatr.

Mae ein ffocws ar ddatblygu a chynhyrchu ysgrifennu newydd ac ar feithrin artistiaid Cymreig a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn ein gwneud yn ystafell injan y theatr Gymreig. Rydyn ni’n adrodd straeon Cymreig gyda chyseinedd byd-eang trwy ein cynyrchiadau Made at Sherman, sydd wedi’u creu o dan ein to yma yng nghanol Caerdydd. Rydyn ni’n lle i bawb, yn creu cyfleoedd i ddinasyddion De Cymru gysylltu â’r theatr trwy ymgysylltu ysbrydoledig a gweledigaethol.

Mae Hijinx yn un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop, yn ymdrechu i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal a thegwch ar lwyfan, ar sgrin ac mewn bywyd i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistig, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i Gymru a’r byd. Mae gwaith clodwiw’r cwmni yn wreiddiol, yn syndod, yn afieithus ac yn ddoniol ac mae galw mawr amdano ledled y byd, gyda chynyrchiadau yn cynnwys Meet Fred, The Flop ac Into the Light yn teithio i dros 20 o wledydd yn y blynyddoedd diwethaf.

O amgylch Cymru mae Academïau Hijinx yn darparu hyfforddiant drama proffesiynol i dros 50 o actorion dawnus unigryw ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Actorion Hijinx sydd wrth galon gwaith y cwmni: eu cynyrchiadau theatr a ffilm a’r hyfforddiant cyfathrebu y mae Hijinx yn ei gynnig i fusnesau. Mae Actorion Hijinx yn cael eu dyrchafu i’r diwydiannau theatr, teledu a ffilm ehangach ar www.hijinxactors.co.uk, llwyfan castio mwyaf y DU sy’n ymroddedig i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Yn ogystal, mae Hijinx PAWB yn cynnig rhwydwaith Cymru-gyfan o gyrsiau drama cymunedol i bawb sydd eisiau actio, waeth beth fo’u gallu neu brofiad. I gael y newyddion a diweddariadau Hijinx diweddaraf, gweler y wefan: www.hijinx.org.uk/cy.

Mae’r Innovate Trust, sef Gwasanaethau Cymdeithasol Prifysgolion Caerdydd (C.U.S.S.) gynt,
yn elusen byw â chymorth fawr yn Ne Cymru a ffurfiwyd fel prosiect Gwirfoddoli Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1967. Innovate Trust oedd yr elusen gyntaf yn y DU i sefydlu llety byw â chymorth. Mae’r Innovate Trust yn parhau i anelu i greu ffyrdd newydd o gefnogi unigolion a sicrhau bod ganddynt ryddid, dewis, urddas a rheolaeth dros eu bywydau. Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

image