Sesiwn yn Theatr y Sherman ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 17 oed sydd â diddordeb mewn theatr a pherfformio, ac a fyddai’n awyddus i gymryd rhan mewn gweithdy AM DDIM.
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal ar:
Ddydd Sadwrn, Ionawr 28ain, 1yp – 3yp.
Bydd yn para tua 2 awr ac yn cynnwys elfennau fel; symud; byrfyfyr; gwaith ensemble a gemau drama.
Yn dilyn y gweithdy bydd pob person ifanc yn cael cyfle i gofrestru ar gyfer clyweliad AM DDIM ym Mryste. Rhoddir rhagor o wybodaeth yn y gweithdy ynghylch pryd bydd y clyweliad hwn yn cael ei gynnal a beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod. Bydd cyfle hefyd i’r bobl ifanc ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y National Youth Theatre.
Os hoffech chi gofrestru ar gyfer y gweithdy, anfonwch e-bost at isaac.hall@shermantheatre.co.uk