Gweithdy Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu

Gweithdy Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu am ddim yn Theatr y Sherman

Ym mis Mehefin fel rhan o Ddathliad yr Haf, mae’n bleser gan Theatr y Sherman gynnig gweithdai ysgrifennu creadigol AM DDIM i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed.

Mae’r gweithdai hyn, sy’n rhan o’n rhaglen hynod boblogaidd Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu, yn rhoi lle i bobl ifanc archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol, yn ogystal â rhannu eu llais ag eraill, gyda chymorth awduron, cyfarwyddwyr ac actorion proffesiynol.

Ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2il rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc LHDTC+. Mewn gofod a hwylusir gan artistiaid LHDTC+ rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc yn dod o hyd i le y gallant berthyn, lle gallant fod yn nhw eu hunain ac archwilio’r straeon anhygoel y maent am eu hadrodd.

Mae gweithgareddau Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman yn cynnig mannau cynhwysol a diogel i bobl ifanc LHDTC+ a’u teuluoedd. Bydd arweinwyr ein grŵp bob amser yn defnyddio ac yn parchu rhagenwau ac enwau dewisol cyfranogwyr traws ac anneuaidd a’u gwarcheidwaid.

Cynhelir y sesiwn rhwng 10yb a 4yp yn Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4YE.

Bydd y gwaith y mae’r bobl ifanc yn ei greu yn cael ei berfformio gan actorion proffesiynol ar nos Sadwrn, Gorffennaf 9fed fel rhan o noson o waith arall gan bobl ifanc a gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer y gweithdy a’r dangosiad.

Diolch i gefnogaeth hael a pharhaus Sefydliad Esmée Fairbairn rydym yn gallu cynnig y gweithdai hyn AM DDIM, ond mae nifer y llefydd yn gyfyngedig.

I gofrestru eich diddordeb neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tim a Goody drwy ebostio itp@shermantheatre.co.uk.