Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn eich sefydliadau theatr? Os felly, gwych!
Rydyn ni’n meddwl y dylai pawb sy’n gweithio yn ein diwydiant ni gael mynediad at yr wybodaeth yma – i’r ystafelloedd yma, ar yr adegau pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.
Yn 2024, fe fyddwn ni’n agor ein drysau – a’n llyfrau – i chi. Ein cymuned lawrydd. Mae ‘Llyfr Agored’ yn bartneriaeth newydd rhwng Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Theatr y Torch, y Theatr Genedlaethol a Chelfyddydau Pontio Bangor.
Byddwn yn cynnig 15 diwrnod yr un o gysgodi gyda thâl llawn i ddeg o weithwyr theatr llawrydd a chyfle i weithio gyda’n Cyfarwyddwyr Gweithredol a’r Uwch Dimau Arwain. Ar gyfer pob cyfranogwr, bydd hyn yn digwydd yn Theatr Clwyd ac mewn un sefydliad partner arall.
Chi fydd yn penderfynu pryd a sut bydd y 15 diwrnod yma’n cael eu cwblhau. Rydyn ni eisiau gweithio gyda’ch amserlen lawrydd heriol sy’n newid yn barhaus, nid gweithio yn ei herbyn.
Cyflog: £600 yr wythnos
Cynhaliaeth (os oes angen): £210 yr wythnos
Bydd yr holl gostau teithio ar gyfer siwrneiau cymudo nad ydynt yn rheolaidd yn cael eu had-dalu
Ar ddiwedd y prosiect, bydd cronfa gyffredinol o £5,000 ar gael i ariannu cynigion / prosiectau sydd wedi’u cynllunio gan y cyfranogwyr eu hunain.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 15 Ionawr 2024
Fel dewis arall, cyflwynwch fideo heb fod yn hirach na 5 munud o hyd yn cynnwys y pwyntiau ar y ffurflen gais. I wneud hyn, darparwch ddolen (e.e. google drive) i’ch fideo.