Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Zoetrope

Dawns
Archive

Adolygiad

21 Med 2024
2.30yp

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Dewch yn llu i gael eich diddanu a’ch syfrdanu ym myd rhyfeddol Zoetrope!

A yw awr yn ddigon o amser i ddysgu am holl hanes dyn? Mae’n annhebygol.

A yw’n ddigon o amser i gael eich syfrdanu, eich diddori a’ch diddanu? Yn bendant.

Bydd eich dychymyg yn rhedeg yn wyllt wrth i fadfallod, tsimpansïaid a sgerbydau neidio a llamu ar draws llwyfan, yn archwilio cerddoriaeth ac effeithiau clyfar.

Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith.

Coreograffi gan yr enwog Lea Anderson MBE.

Rydym yn cynnig gweithdy am ddim i gynulleidfaoedd Zoetrope. Ymunwch a ni o 1.30yp tan 2.30yp i greu eich Zoetrope eich hun. Mae’r gweithdy am ddim i unigolion sy’n meddu ar docynnau ar gyfer y perfformiad Zoetrope.