Yr Hugan Fach Goch

Crëwyd yn y Sherman Crëwyd Yn Y Sherman Nadolig Perfformiadau yn Gymraeg Teulu Theatr

Ysgrifennwyd gan Katie Elin-Salt

Cyfarwyddwyd gan Alice Eklund

Archive

Adolygiad

2 Tach a 25 Tach 2024 - 4 Ion 2025
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg
  • Gofod: Stiwdio
  • Oedran: 3 - 6
  • Hyd: Tua 50 munud

Dangosiad Rhyngwladol Cyntaf

Stori hudolus sy’n gyflwyniad perffaith i’r theatr i blant bach 3 – 6 oed.

Mae hi’n Nadolig. Amser i fwynhau, dathlu a rhannu anrhegion. Mae Red wrth ei bodd yn derbyn anrhegion, a phan mae clogyn coch arbennig yn ymddangos yn ei hosan Nadolig, mae yna gyffro drwy’r tŷ!

Wrth fynd am dro i weld ei mam-gu, mae hi’n mynd ar goll yn y goedwig ac yn cyfarfod blaidd llwglyd. Er bod y blaidd yn chwarae triciau arni ac yn ei thwyllo, mae’r ddau’n dod i nabod ei gilydd ac yn darganfod bod llawer mwy i’r Nadolig nag anrhegion a theganau newydd. Ymunwch â Red am antur hudolus a gwledd o ganeuon hyfryd dros yr ŵyl. Rydyn ni’n addo y byddwch chi wrth eich boddau.

Bob Nadolig rydyn ni’n cyflwyno drama i blant sy’n cynnig fersiwn newydd sbon o stori dylwyth teg glasurol. Dros y blynyddoedd mae ein sioeau dychmygol, llawn hwyl a sbri, wedi bod yn gyflwyniad arbennig i’r theatr i filoedd o blant. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Hansel a Gretel y llynedd mae Katie Elin-Salt yn dychwelyd gyda’i hail sioe Nadolig i blant bach dan 7 oed.

Mae’r perfformiad hyn yn Gymraeg. Bydd Little Red Riding Hood yn cael eu berfformio yn Saesneg ar perfformiadau gwahanol.

Lawrlwythwch pecyn gweithgareddau Yr Hugan Fach Goch. (hefyd ar gael yn Saesneg)

Cefnogir gan Theatr Cymru

Gwybodaeth Ysgolion

Meddwl mynd am drip Nadolig eleni? Mae dod a grŵp i Theatr y Sherman yn hawdd. Am fwy o wybodaeth am fanteision dod a grŵp Ysgol i’r Sherman dilynwch y linc yma.

Pris Ysgol: £6.50

I archebu grŵp ysgol cysylltwch â’n Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900 neu gyrrwch e-bost i box.office@shermantheatre.co.uk