Colli. Gweld eisiau. Gwrthod. Gazpacho? Stori am fenywod a’r dynion sy’n eu caru.
Pan fydd Pepa, actores llais sy’n gweithio ym Madrid, yn cael neges gan ei chariad Ivan yng nghanol y nos, mae hi’n dechrau poeni. Hynny yw, nes iddi ddarganfod bod Ivan wedi’i gadael hi am fenyw arall. Mae cyn-wragedd, ffrindiau a hyd yn oed gyrwyr tacsi yn ymweu i’w bywyd, yn ceisio ei helpu. Mae sgôr arobryn David Yazbek, sy’n llawn nodweddion Lladinaidd yn cyd-fynd yn berffaith â’r stori dywyll a doniol hon sy’n dilyn grŵp o fenywod am gyfnod o 48 awr sy’n llawn cariad, angerdd ac anhrefn.