UKRAINIAN ARTS FESTIVAL IN CARDIFF: STORIES FROM UKRAINE

Archive

Adolygiad

1 Hydref
7.45yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio

Noson o berfformiadau Wcreineg:

  • Y gantores Tonya Matvienko
  • Ukrland: Sioe un fenyw sy’n cynnwys testunau gan ddramodwyr ac awduron modern o’r Wcrain, a ysgrifennwyd ar ôl dechrau’r rhyfel yn yr Wcrain. Perfformiwyd gan Shorena Shoniia, cyfarwyddwyd gan Yurii Radionov.
  • Bydd côr yn perfformio anthemau cenedlaethol yr Wcrain a Chymru.
  • Tonya Matvienko
    Dywed Wcraniaid fod enaid Wcráin yn canu yn ei llais. Ganed Tonya i linach o gantorion gwerin Wcreineg byd-enwog, sy’n adnabyddus fel gwarcheidwaid diwylliant cerddorol Wcrain. Oherwydd ansawdd ei llais, a etifeddodd gan ei mam, Nina Matvienko, Arwres yr Wcrain, mae Tonya wedi sefydlu ei hun fel un sy’n hyrwyddo caneuon gwerin yr Wcrain mewn gwledydd tramor.

    Ers dechrau ymosodiad Rwsia ar Wcráin, gorfodwyd Tonya, fel miliynau o Wcraniaid, i geisio lloches yn Ewrop. Ynghyd â’i merch 6 oed, daeth yr artist o hyd i ail gartref yn Taunton. Mae Tonya yn cofio ei gwreiddiau ac yn cyflwyno’r gynulleidfa leol i agweddau godidog diwylliant Wcrain. Ers iddi fod ym Mhrydain, mae hi wedi perfformio mewn nifer o gyngherddau elusennol, gan godi arian ar gyfer Byddin yr Wcrain ac ar gyfer anghenion dioddefwyr y rhyfel yn Wcrain.

    Mumbles A Cappella
    Mae Mumbles A Cappella yn gôr o Abertawe sy’n mwynhau canu cerddoriaeth o bob math. Mae’r côr yn chwarae rhan gyflawn ym mywyd y gymuned ac wedi canu mewn llawer o ddigwyddiadau dros y pedair mlynedd diwethaf gan gefnogi nifer o achosion pwysig sy’n amrywio o ganolfan cymorth canser Maggies yn Singleton i achosion sy’n cefnogi pobl Wcrain. Mae’r Mumbles A Cappella yn gôr prysur iawn ac yn perfformio’n rheolaidd mewn llawer o leoliadau ar draws De Cymru. Eleni mae’r côr wedi canu ddwywaith yn Theatr y Grand yn Abertawe – yn gyntaf mewn digwyddiad i groesawu teuluoedd o Wcrain i Gymru ac yn ail ar Awst 24ain i nodi Diwrnod Annibyniaeth yr Wcráin. Mae’r côr yn benderfynol o gefnogi a thynnu sylw at sefyllfa pobl Wcrain ac yn edrych ymlaen at gyfleoedd pellach i gydweithio â grwpiau o’r un anian.