Mae Pete y mochyn daear yn hoffi cadw pob dim yn dwt ac yn daclus: pob blodyn, pob deilen, a phob anifail fel pin mewn papur. Pan ddaw’r hydref, mae e’n tacluso, yn tacluso ac yn tacluso unwaith eto, nes ei fod yn difetha’r goedwig gyfan, ac yn colli ei gartref!
Yn seiliedig ar y llyfr hynod boblogaidd i blant gan yr awdur a’r darlunydd Emily Gravett, mae Tidy yn chwedl sy’n ein hatgoffa ni mor bwysig yw’r byd o’n cwmpas ni a’r hyn sy’n digwydd pan na fyddwn yn gofalu amdano.
Gyda phypedau hyfryd, cerddoriaeth wreiddiol a thamaid o ddwli ac anrhefn pur, dyma’r stori berffaith i ddiddanu cynulleidfaoedd ifanc.
Mae’r perfformiad hyn yn Saesneg. Bydd Taclus yn cael eu berfformio yn Gymraeg ar perfformiadau gwahanol.
Yn seiliedig ar y llyfr darluniedig i blant gan Emily Gravett
Crëwyd ar y cyd gan Lee Lyford, Lucy Rivers a Rachael Canning
Mae Tidy yn seiliedig ar y llyfr lluniau arobryn gan Emily Gravett. TIDY © Emily Gravett 2016 – Two Hoots, Llyfrau Plant Macmillan. Addasiad Cymraeg, TACLUS © Rily Publications Ltd