Little Wander yn cyflwyno

Three Bean Salad Podcast

Theatr

Adolygiad

13 Medi 2025
7.30yh

Prisiau

£24

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

16+, rhai yn rhegi

Pan raddiodd Henry Paker, Benjamin Partridge a Mike Wozniak ‘valedictorian-cum-laude-prom-queen’ o Ysgol y Gyfraith Harvard, daeth cynigion o waith gan bob cwmni cyfreithiol o Sweat Belt America.

Bron mor gyflym ag iddynt arllwys gumbo ar eu haffidafid cyntaf, fe ddatgelodd y tri gynllwyn a fyddai’n rhoi ysgytwad go iawn i ddynameit gwleidyddol prifddinas yr Unol Daleithiau. Ond stori ar gyfer tro arall yw honno. Yr hyn sy’n bwysig ar hyn o bryd yw bod Three Bean Salad yn gwneud ei DAITH lawn gyntaf erioed ac mae croeso cynnes i chi ymuno a mwynhau’r tynnu coes llugoer IRL. Disgwyliwch ddarlunio byw, disgwyliwch fanjo go iawn, disgwyliwch benderfynu beth mae’r ffa yn siarad amdano yn eich theatr leol.