The Women of Llanrumney 2025

Drama

Adolygiad

26 Ebrill - 10 Mai 2025
Amrywiaeth

Prisiau

£6.5 - £14.5

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 2 awr 15 munud yn cynnwys egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn delio â chaethwasiaeth, yn cynnwys geiriau hiliol o’r dechrau, golygfeydd a allai beri gofid i aelodau’r gynulleidfa, cyfeiriadau at drais a chamdriniaeth ac yn cynnwys iaith gref. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae drama hanesyddol arobryn Azuka Oforka yn dychwelyd diolch i alw aruthrol.

Mae drama hanesyddol ddinistriol Azuka Oforka yn wynebu gorffennol trefedigaethol Cymru benben. Wedi’i gosod yng nghyfnod trefedigaethol Jamaica yn y 18fed ganrif, mae’r ddrama danbaid hon yn archwiliad pwerus o brofiad menywod yn ystod caethwasiaeth – rheiny ag elwodd ohono, rheiny a brofodd ei greulondeb, a’r rheiny a frwydrodd i’w ddinistrio. Mae The Women of Llanrumney yn rhoi Cymru a’i rhan yng nghaethwasiaeth yng nghanol y llwyfan; gan oleuo pennod gudd yn hanes Cymru.

Yr hanes:

Planhigfa Llanrumney. Plwyf Saint Mary, Jamaica. 1765.

Mae Annie a Cerys wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan o Gymru. Mae eu dyfodol yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth all fod o’i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond hwyr neu’n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu o’i chwmpas, bydd yn rhaid i Annie wynebu’r arswyd a’r trawma o’i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi.

Mae dychweliad y ddrama arobryn, gymeradwyol a chlodwiw hon yn debygol o fod yn un o sioeau mwyaf poblogaidd 2025.

Cyflwynir gan Stratford East a Theatr y Sherman. Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Theatr y Sherman.