Mae storm ar y gorwel. Beth ydych chi am wneud amdano?
Yn y flwyddyn 2065, mewn lle anghysbell yng ngogledd Cymru, mae grŵp o bobl ifanc yn dod ynghyd yng Nghanolfan Capel Celyn ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, lleoliad arbennig lle byddant yn edrych ar sut i fod yn ddinasyddion da. Ond buan iawn maent yn sylweddoli bod rhywbeth ofnadwy yn digwydd yn y byd tu allan, ac mae’n rhaid wynebu her na fyddai unrhyw un wedi’i disgwyl. Wrth i’r gorffennol atseinio o’u hamgylch, mae’r dyfodol yn eu dwylo nhw nawr.
Dewch i brofi dyfodol y theatr heddiw gyda The Pilot – gwaith gafaelgar sy’n sicr o brocio’r meddwl. Mae’r cydweithrediad arloesol ac ysbrydoledig hwn yn uno lleisiau newydd dau o’n rhaglenni datblygu creadigol allweddol gydag un o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Bydd Jennifer Lunn, dramodydd sydd wedi ennill gwobrau, yn cydweithio â charfan bresennol ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu (i’r rheiny sy’n 15-18 oed) er mwyn datblygu’r ddrama eofn newydd hon a berfformir gan aelodau hŷn Theatr Ieuenctid Sherman.