Theatr Ieuenctid y Sherman

The Periodicals

Theatr

Ysgrifennwyd gan Sian Owen

Cyfarwyddwyd gan Alice Eklund

Archive

Adolygiad

5 Ebr 2024
5.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r cynhyrchiad yma yn cynnwys niwl, goleuadau sy’n fflachio a synau uchel.

Perfformiwyd gan Theatr Ieuenctid y Shermanas fel rhan o Connections 2024.

Mae mis Ebrill bob amser yn gyfnod cyffrous yn Theatr y Sherman. Eleni eto, bydd cwmnïau theatr ieuenctid o bob cwr o de Cymru yn ymgynnull yn y Sherman wrth i ni gynnal Gŵyl NT Connections. I bawb sy’n hoffi theatr, cewch wledd o ysgrifennu newydd wedi’i berfformio gan dalent ifanc ddisglair, gan gynnwys perfformiad o The Periodicals gan Theatr Ieuenctid y Sherman. Bydd pob cwmni theatr ieuenctid yn cael y cyfle i berfformio, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau. Dewch draw i’r Sherman dros y gwanwyn i brofi dyfodol y theatr.

Darganfyddwch mwy am The Periodicals a berfformir gan Theatr Ieuenctid y Sherman:

Wedi’i osod mewn dyfodol dystopaidd, heb fod yn bell o’n byd ni, mae The Periodicals yn dilyn grŵp o bobl ifanc sy’n byw tu hwnt i gymdeithas. Yn benderfynol o osgoi cael eu hanfon nôl i’r ysgol, mae’r Periodicals yn ffurfio eu cymuned amgen eu hunain.

Gan archwilio materion sydd o bwys i bobl ifanc heddiw – o iechyd meddwl a chyfeillgarwch i bwysigrwydd medru lleisio eu barn – mae The Periodicals yn brofiad i’ch syfrdanu hyd y diwedd.