Trwy gydol y flwyddyn mae aelodau Sherman + yn dod yn nes at theatr gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n cynnig mewnwelediad i sut mae creu theatr. Ym mis Medi eleni gallwch gael blas o Sherman + gyda Thaith tu ôl i’r Llen y Sherman yn 50. Dewch i weld sut mae trawsffurfio drama o’r llyfr i’r llwyfan trwy ein cynyrchiadau Crëwyd yn y Sherman. Dysgwch am ein stori hyd yn hyn. Darganfyddwch bethau newydd a chael sawl syrpreis ar hyd y daith.
Mae’r daith yn agored i bawb a bydd yn para am 90 munud. Mae tocynnau am ddim ac mae opsiwn i wneud cyfraniad i gefnogi ein gwaith os dymunwch. Mae lleoedd yn gyfyngedig gydag uchafswm o ddau docyn fesul archeb. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion hygyrchedd wrth archebu eich tocynnau os gwelwch yn dda.