Gyda cherddoriaeth a geiriau hynod gyfoethog, y gallai ond Sondheim eu hysgrifennu, mae’r sioe gerdd hon yn archwilio cariad at y rheini sydd o’n cwmpas a’r awydd anniwall i greu.
Un o gampweithiau mwyaf adnabyddus Stephen Sondheim, mae Sunday in the Park with George yn dychmygu sut y daeth George Seurat i beintio ei waith enwocaf, A Sunday Afternoon on the Island of La Grande Jatte.
Gan ddechrau gyda chynfas gwag mae George yn arsylwi ac yn ceisio dal y cymeriadau sy’n mynychu’r parc, gan gynnwys Dot, model a chariad George. Ond faint allwn ni ei ddal mewn gwirionedd? Ydyn ni eisiau gweld y gwir neu argraff, a beth mae’r arlunydd yn ei aberthu?
Cerddoriaeth & Geiriau gan Stephen Sondheim
Llyfr gan James Lapine
Cyfarwyddwr Sarah Tipple