Mae STILL FLOATING yn adrodd straeon newydd sbon sy’n ddoniol a chynnes gan awdur/perfformiwr arobryn y BBC, Shôn Dale-Jones. Dyma stori am gariad, gwytnwch a chwerthin am y pethau ddylai wneud i ni grio.
Pan wnaeth rhywun awgrymu y dylai Shôn ail-lwyfannu ei sioe boblogaidd FLOATING (Barbican, Sydney Opera House) ynglyn ag Ynys Môn yn arnofio oddi wrth dir mawr Prydain, nid oedd yn siŵr mai dyna oedd y byd ei angen ar hyn o bryd. Nid 2022 yw 2006. Ond wrth i Shôn egluro pam na ddylai gyflwyno’r sioe rydym yn darganfod bod mynd yn ôl weithiau yn ein helpu i symud ymlaen. Wedi’i hadrodd gan enillydd dwy wobr Fringe First, mae hon yn stori ddoniol, dyrchafol a theimladwy, sy’n gwneud i’r real a’r afreal ffitio â’i gilydd mewn un cyfanwaith syfrdanol.