Mae Stevie Martin (Taskmaster, sioe sgets newydd Mitchell & Webb, 8 out of 10 Cats Does Countdown, The Horne Section TV Show) wedi bod yn creu comedi ar-lein ers tro (wedi’i wylio 45 miliwn o weithiau dros y byd) ond nawr, dyma hi’n dychwelyd i gomedi byw gyda’i sioe ddiweddaraf; sioe a werthodd bob un tocyn yng Ngŵyl Fringe Caeredin ac yn Theatr Soho eleni.
Mae’r sioe yn debyg i’w chynnwys ar-lein, heblaw ei bod hi ar lwyfan a does dim modd i chi wasgu’r seibiwr er mwyn hol rhywbeth i fwyta (cig?). Bydd rhaid i chi hefyd eistedd mewn ystafell benodol i’w wylio (peidiwch â dod â’ch cig gyda chi).
“High-quality gags tightly packed inside other gags, ready to jack-in-the-box out and multiply… Ingenious” The Guardian ★★★★
“Generous, surprising and joyous” The Times ★★★★
“Stevie Martin’s densely-packed show peeking behind the curtain of online stardom begs repeat visits… A clever, knowing and, crucially, hilarious, hour” The Scotsman ★★★★
“Successfully brings that online visual hilarity to the stage, via twin immersive screens assaulting your senses with messages from her phone and laptop while Stevie hardly catches breath between gags” Daily Express ★★★★
“This is a properly funny show” The List ★★★★