Songs From Across the Sueniverse

Theatr
Archive

Adolygiad

8 - 10 Chwe
8:00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 80 munud
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hyn yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa. Am mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae Sue Timms, y cymeriad hynod lwyddiannus a phoblogaidd, yn dychwelyd i Gaerdydd i gynnig rhagflas arbennig o’i sioe newydd sbon. Byddwch yn barod am noson sy’n chwalu ffiniau – cerddoriaeth, comedi, theatr a chymundeb ysbrydol – a pherfformiad na welsoch chi erioed mo’i debyg o’r blaen!

Wedi i Sue gael ei throi allan o’i chartref a’i bywyd ynysig, mae’n cychwyn ar bererindod anhygoel ar draws Cymru gyfoes, drwy ganolfannau siopa a choedwigoedd hynafol, ar hyd traffyrdd prysur a thros fynyddoedd unig, yn chwilio am wyrth. Sioe gerdd orfoleddus sy’n ymdrin ag unigrwydd a chyflwr ein cenedl, tra’n dathlu llawenydd a gweithredoedd bach o garedigrwydd.

Gan Daf James a Ben Lewis

Mewn partneriaeth â NTW