Mae Shirley yn rhedeg y dafarn orau y’ch chi erioed wedi bod ynddi, lle sy’n llawn chwerthin, ble y caiff straeon eu rhannu, a caiff cysylltiadau eu creu.
Wedi’i thrin yn gariadus gan y menywod o fewn ei theulu a’i bywiocáu gan anthemau mawr ar y carioci, mae Shirley’n wynebu creisis pan y mae’n darganfod cynlluniau i werthu’r dafarn, sy’n bygwth dadwneud pob dim.
Mewn corwynt o hunan-ddatgeliad, mae Shirley’n ail-archwilio ei pherthynas â’i chorff, yn cwestiynnu’r pŵer y mae hi’n ei ddal, a’n wynebu ei chyfran ei hunan yn y broses.
Mae ei stori yn archwiliad drydanol o hunaniaeth, gweithrediad, a gwreictod, wedi’i hadrodd gyda gonestrwydd amrwd, hiwmor bachus a cherddoriaeth gan rai o’n hoff difas.
Ymdrochwch eich hunain o fewn byd gwirioneddol eglur a hollol ryfeddol ‘SHIRLEY’, ble y mae pob noson yn noson i’w chofio.
Tocynnau eistedd gyda Shirley
Eisiau gwella eich profiad a mwynhau’r sioe o sedd ym mar Shirley? Mae’r tocynnau’n cynnwys sedd ar y set wrth un o fyrddau bar Shirley. Mae seddau wrth y bar heb eu gadw a byddant yn cael eu dryannu ar y noson ar sail cyntaf i’r felin. Cynghorir grwpiau o ddau neu fwy i gyrraedd yn gynnar er mwyn sicrhau’r posibilrwydd o eistedd ar yr un bwrdd.
Hygyrchedd
Mae sgript Shirley wedi cael ei ddatblygu i fod mor hygyrch â phosib ar gyfer cynulleidfaoedd heb sain ddisgrifiad.Mae’r cwmni wedi gweithio’n agos gyda’r ddramatwrg Tafsila Khan i gyfleu’r holl wybodaeth weledol angenrheidiol trwy elfennau sain y sioe. Fydd taith cyffwrdd ar gael cyn y sioe, lle allwch chi archwilio’r set, gwisgoedd a gweadau.
Ariennir gan Cyngor Celfyddydau Cymru a The Darkley Trust