Shermantiques Roadshow

Adolygiad

Tach 18 2023, 11yb - 2yp

Prisiau

AM DDIM

Oes gennych chi lwyth o drysorau’r Sherman adref? Os ydych chi wedi cadw ambell beth cofiadwy, taflenni, neu gyda lluniau ac atgofion arbennig, byddem wrth ein bodd petaech yn eu rhannu gyda ni.

Bydd y tîm prosiect archif ac aelodau eraill o dîm y Sherman yn cynnal digwyddiad arbennig, sef y Shermantiques Roadshow, ar 18 Tachwedd rhwng 11yb a 2yp. Dyma gyfle i chi ddod â’ch trysorau Sherman atom, sgwrsio am eu lle yn hanes y Sherman a rhoi gwybod beth maent yn golygu i chi.

Bydd hefyd gennym arddangosfa yn dangos eitemau o drwy gydol ein hanes i chi.

Dewch i mewn, rhannwch eich stori Sherman gyda ni a dewch i gael sgwrs. Mwynhewch ddiod boeth a chacen am ddim.

Mae’r digwyddiad yn un rhad ac am ddim a gallwch alw heibio unrhyw bryd.