Fis Ebrill yma bydd y Sherman unwaith yn rhagor yn croesawu rhwydwaith arbennig o gwmnïau Theatr Ieuenctid o Gaerdydd a De Cymru, i gymryd rhan yn ein Gŵyl Theatr Ieuenctid. Bydd pob cwmni’n perfformio drama NT Connections.
Bydd Theatr Ieuenctid Sherman yn ymuno yn yr ŵyl, ac yn ail gyflwyno eu perfformiad o The Pilot gan Jennifer Lunn, a ddatblygwyd gyda Chyfranogwyr ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu.
Wrth i’r bobl ifanc lenwi’n hadeilad â pherfformiadau ac amserlen brysur o weithdai, bydd y Sherman yn dod yn hafan o greadigrwydd.
Ymunwch â ni ar gyfer un perfformiad, neu prynwch docyn gŵyl a gwyliwch gynifer o berfformiadau a fynnwch.
Ravers gan Rikki Beadle-Blair (NT Connections)
Perfformir gan Actors Workshop
14 Ebrill 12.30pm
Fresh Air gan Vickie Donaghue (NT Connections)
Perfformir gan Kinetic School of Performing Arts
14 Ebrill 4pm
No Regrets gan Gary McNair (NT Connections)
Perfformir gan Theatr Glo (NT Connections)
15 Ebrill 3pm
The Pilot gan Jennifer Lunn
Perfformir gan Theatr Ieuenctid Sherman
15 Ebrill 5.30pm