Yn dilyn tymor hynod lwyddiannus yng Ngŵyl Fringe Caeredin, mae Rosie yn mynd â’i sioe newydd sbon ar daith, i droedio’r ffin gul rhwng gwleidyddiaeth ac adloniant.
Po waethaf yr yrfa wleidyddol, y mwyaf proffidiol yw’r cyfleoedd adloniant sy’n dilyn. Efallai bod Matt Hancock yn euog o ladd miliynau ond nawr, fe sy’n llewyrchu.
Felly, a gall cymeriad AS poblogaidd Rosie Holt ddilyn ôl traed “politainers” fel Dorries, Farage a Rees-Mogg, a brasgamu o dudalennau’r Hansard i Heat?
Mae Rosie yn ddigrifwr, actor a dychanwr clodwiw, gyda dros 6.5 miliwn o wylwyr wedi gweld ei fideos poblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n cyflwyno’r podlediad Noncensored, ac wedi cael ei gweld/chlywed ar The Russell Howard Hour (Sky Max), a rhaglenni BBC Radio 4 megis The News Quiz, DM’s Are Open, ac Ashley Blaker: 6.5 Children, ymhlith llawer o gredydau eraill.