Beth sy’n digwydd pan fydd dynwaredwr mwyaf craff Prydain yn camu o du ôl i’w fwgwd?
Ers deugain mlynedd, mae Rory Bremner wedi bod yn un o leisiau blaengar ein hoes – a hynny’n llythrennol. Yn feistr ar ddynwared eraill, bydd Rory yn cyfuno’i stand-yp adnabyddus â sgwrs onest mewn sioe newydd a chlòs, gyda chast o wahanol westeion arbennig yn gwmni iddo bob tro. Paratowch am wledd o ddynwarediadau penigamp, sylwebaeth wleidyddol finiog, a mewnwelediad cignoeth gan ddyn sydd wedi creu gyrfa ar fod yn bobl eraill.
O’i gyfresi dychanol Bremner, Bird & Fortune, ac ymddangosiadau ar Mock the Week, i gyfieithu opera a chwarae rhan Chris Tarrant yn James Graham’s Quiz, mae gyrfa cameleonaidd Rory goruwch ei chategoreiddio. Peidiwch â cholli’r cyfle prin hwn i weld dynwaredwr mwyaf blaenllaw Prydain yn plethu comedi â sgwrs mewn noson o arsylwi miniog, dynwarediadau perffaith, ac ambell ddatguddiad i’ch syfrdanu.