Yn 2021 aeth Richard Herring i weld ei feddyg teulu ar ôl sylwi bod ei gaill dde yn fwy na’r llall. Daeth i’r amlwg fod ganddo ganser y ceilliau ac o fewn mis roedd yn gorwedd yn yr ysbyty yn aros i dynnu’r caill cythreulig. A fydd byw? (Pwy a ŵyr!).
Fel digrifwr â sioe gyfan amdano organau rhywiol dynion (Talking Cock) ac wedi ysgrifennu llyfr am wrywdod gwenwynig (The Problem With Men) teimlai hyn fel un o gnacau brwnt ffawd.
Gyda mwy o ddyddiadau wedi’u hychwanegu yn 2025 wrth iddo ddychwelyd i stand-yp ar ôl chwe blynedd hir, mae Richard yn siarad trwy ei bwrs ac yn ateb y cwestiwn ar wefusau pawb: A yw caill mewn pot jam yn wobr addas i roi ar Taskmaster?