Mewn pentref tawel, mae rhinoseros yn taranu trwy’r strydoedd. Mae pawb wedi drysu’n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?
Gan Eugène Ionesco
Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros
Ond, fesul un, caiff holl drigolion y pentref eu hudo gan y drefn newydd a’u trawsnewid i mewn i fwystfilod. Wrth i’r byd a’i bobl newid o’i gwmpas, mae’r arwr annhebygol Bérenger yn gafael yn dynn yn ei hunaniaeth ac yn gwrthod ildio – ond beth ydy’r gost o beidio cydymffurfio?
Yn llawn hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol nawr ag erioed, daw’r campwaith absẃrd hwn gan Eugène Ionesco i lwyfannau Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.
Byddwch yn ofalus – mae’r rhinoserosod yn dod!
Dehongliad BSL gan Cathryn McShane
Bydd yna sgwrs ar ôl y sioe ar 25 Hydref.
Sibrwd
Bydd Sibrwd – yr ap mynediad iaith – ar gael i’ch tywys trwy’r ddrama, os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu ddim. Trwy gyfrwng llais yn y glust a thestun ar y sgrin, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan ac mae ar gael i ddefnyddio ar eich ffonau personol.