Un mainc, dau berson, a phum diwrnod.
Mae Rhythm yn fyrfyfyr ac yn profi bywyd fel symudiad. Gwell gan Glas gael bywyd digynnwrf a sefydlog, ac mae’n hoffi gweld pethau’n aros yr un fath. Pan fo Rhythm a Glas yn cwrdd ym mharc Bellevue, mae ganddynt bum diwrnod o wyliau hanner tymor i weld a yw eu cyfeillgarwch yn werth ei gadw ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’w gwahanol ysgolion.
A fyddan nhw’n llwyddo i greu rhywbeth syfrdanol – rhythm sy’n eiddo iddyn nhw, a neb arall?
Drwy gyfrwng cerddoriaeth a symudiadau ac anhap, mae’r ddau berson ifanc yma’n profi’r anawsterau a’r llawenydd a geir trwy gysylltu â rhai sy’n annhebyg iddyn nhw eu hunain.
Sioe theatr ddawns yw Remarkable Rhythm ar gyfer pobl ifanc 7+ a’u teuluoedd, gyda dau berfformiwr yn llefaru sain-ddisgrifiad creadigol o’r sioe tra maen nhw’n dawnsio. Mae’r sioe hon yn rhoi mynediad ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Mae holl linell y stori’n gwbl glir yn weledol, gan ei gwneud yn bosibl i gynulleidfaoedd Byddar gael profiad llawn o bob sioe (caiff yr holl destun a berfformir ei sain-ddisgrifio).
Bywgraffiad o’r Artist:
Mae Krystal S. Lowe – a aned yn Bermuda ac sydd bellach wedi sefydlu yng Nghymru – yn ddawnsiwr, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr sy’n perfformio a chreu gweithiau theatr dawns ar gyfer y llwyfan, gofod cyhoeddus a ffilm, gan archwilio themâu o hunaniaeth croestoriadol, iechyd meddwl a lles, a grymuso i’w herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsylliad a newid cymdeithasol. Mae Krystal yn angerddol ynghylch integreiddio mynediad ac archwilio gwaith amlieithog, gyda ffocws penodol ar Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg a Saesneg.
Mae ei gyrfa amrywiol yn cynnwys perfformio a theithio gyda Ballet Cymru ledled y Deyrnas Unedig, China a Bermuda; a gyda chwmni syrcas Citrus Arts, Ransack Dance, Theatr Iolo, The Successors of the Mandingue, a Laku Neg.
Ar hyn o bryd, mae Krystal yn Artist Cysylltiol gyda Ballet Cymru, yn Ymddiriedolwr gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac yn aelod o’r Theatr i Gynulleidfaoedd Ifanc.
Am ragor o wybodaeth, ewch i krystalslowe.com.