Roedd sioe newydd Shôn Dale-Jones yn mynd i fod am gariad. Ond beth ydych chi’n ei wneud pan rydych yn ysgrifennu sioe am gariad, ac mae popeth yn mynd yn dywyll? Rydych yn dod o hyd i stori newydd. Stori gyda sgons ar ôl hanner nos, grwpiau WhatsApp teulu a Grandmaster Flash.
Mae Possible yn stori chwareus, onest a didwyll sy’n cyfuno realiti gyda gwlad breuddwydion caleidosgopig o animeiddio a ffilm (gan Bear Thompson), gyda cherddoriaeth wreiddiol wedi’i pherfformio’n fyw gan John Biddle. Mae’n sioe am gariad, creadigrwydd a dod o hyd i’r dewrder i archwilio’r gorffennol er mwyn llunio’r dyfodol.
“Perfectly judged, unabashedly authentic and vulnerably autobiographical”
★★★★ The Guardian
“Dale-Jones is an exceptional storyteller, delicately weaving together multiple narratives… charming, relatable and authentic” Exeunt Magazine
“experimental, layered and what Welsh fringe theatre is really about” Get the Chance
“In using his storytelling skills to tell us what it has been like for him, Dale-Jones makes us consider more deeply what the last year has been like for us.” Lyn Gardner, Stagedoor
Cafodd y sioe Possible ei chreu gyntaf fel profiad digidol a’i ffrydio’n fyw i gartrefi cynulleidfaoedd pan nad oedd hi’n bosib i bawb fod gyda’i gilydd. Nawr, wrth i leoliadau ledled Cymru ailagor eu drysau, mae Possible yn dod i Theatr y Sherman, gan eich croesawu yn ôl i theatr fyw, wyneb yn wyneb…fel cwtsh croeso gartref mawr theatrig.